(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn ag adran 16 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym sy'n diwygio Deddf Safonau Gofal 2000 drwy fewnosod darpariaeth newydd (adran 36A). Mae'r adran newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer dosbarthu swyddogaethau mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Comisiwn Safonau Gofal Cenedlaethol fel awdurdodau cofrestru.