2003 Rhif 181 (Cy.31) (C.9)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 1 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2003.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y diwrnod penodedig2

1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 16 o'r Ddeddf ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

Jenny RandersonY Gweindog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn ag adran 16 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym sy'n diwygio Deddf Safonau Gofal 2000 drwy fewnosod darpariaeth newydd (adran 36A). Mae'r adran newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer dosbarthu swyddogaethau mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Comisiwn Safonau Gofal Cenedlaethol fel awdurdodau cofrestru.