Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 19972.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,227” rhoddir “£12,508”.
(3)
“(a)
£77 where the relevant income does not exceed £11,626; and
(b)
£40 where that income exceeds £11,626 but does not exceed £12,508.”
(4)
Yn rheoliad 4 —
(a)
ym mharagraff (3), yn lle “£11,381” rhoddir “£11,639”; a
(b)
ym mharagraff (4) —
(i)
yn lle “£11,381” rhoddir “£11,639”, a
(ii)
yn lle “£11,202” rhoddir “£11,460”.
(5)
“or
(c)
Child Tax Credit prescribed for the purposes of section 512ZB(4)(a)(iv) of the Education act 19964.”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2003 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2003/2004 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu Credyd Treth i Blant i'r rhestr o fudd-dâl neu lwfans yn Rheoliadau 1997 y mae eu derbyn yn galluogi i'r ffioedd am brydiau ysgol beidio â chael eu talu.