2003 Rhif 1721 (Cy.188)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac sy'n gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd3, ac yn unol ag adran 48(4) a 4(B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: