Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003
2003 Rhif 1713 (Cy.181)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd a phennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: