Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2303 (Cy.228)), (“y prif Orchymyn”).

Yr unig newid o sylwedd a wneir i'r prif Orchymyn gan y Gorchymyn hwn yw diwygio'r dyddiad y mae'r prif Orchymyn yn peidio â chael effaith (o 1 Chwefror 2003 i 1 Tachwedd 2003) (erthygl 2). Mewnosodir term a ddiffiniwyd (ceidwad) yn y testun Cymraeg o erthygl 3(1) yn lle cymal cyfatebol.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.