Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
Teitl, cymhwyso a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 20022.
(1)
(2)
Yn erthygl 1(2) rhoddir “1 Tachwedd 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
(3)
Yn erthygl 3(1), yn y testun Cymraeg yn unig, rhoddir “Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'n” yn lle “Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2303 (Cy.228)), (“y prif Orchymyn”).
Yr unig newid o sylwedd a wneir i'r prif Orchymyn gan y Gorchymyn hwn yw diwygio'r dyddiad y mae'r prif Orchymyn yn peidio â chael effaith (o 1 Chwefror 2003 i 1 Tachwedd 2003) (erthygl 2). Mewnosodir term a ddiffiniwyd (ceidwad) yn y testun Cymraeg o erthygl 3(1) yn lle cymal cyfatebol.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.