Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2003.
Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 20022.
(1)
(2)
Yn erthygl 1, rhodder “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
(3)
Yn erthygl 3—
(a)
“(xxii)
symudiad anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd ar safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw wedi ymadael â'r cyfrwng cludo tra bu ar y safle.”;
(b)
ym mharagraff (3)(e)(iv) rhodder y gair “diweddaraf” yn lle “cynharaf”;
(c)
“(ng)
anifail o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig ar ôl cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall;”.
(4)
“Cyfleusterau glanhau a diheintio8.
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
Trwyddedau penodol8A.
(1)
Rhaid i anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a)
gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b)
bod y drwydded gydag ef drwy gydol y symudiad.
(2)
Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded benodol gael ei gadw ar wahân, drwy gydol y symudiad, i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno.
(3)
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded, a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(4)
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, oni bai i'r drwydded ddarparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a)
sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho;
(b)
yn achos lladd-dy, roi copi i'r llawfeddyg milfeddygol swyddogol; ac
(c)
cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir amdani.
Trwyddedau cyffredinol8B.
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol, ac mae'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n symud yr anifeiliaid fod â dogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a)
sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;
(b)
llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, ei lofnodi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; a
(c)
cadw copi o'r ddogfen wedi ei llenwi am chwe mis.
Copïau o drwyddedau8C.
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2304 (Cy.229), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2480 (Cy.243)).
Mae'n newid y dyddiad pan beidia'r Gorchymyn â bod yn effeithiol i 1 Ebrill 2003 (erthygl 2(2)).
Mae'r Gorchymyn yn newid yr amodau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a gymerir o safle mewn cyfrwng cludo sydd wedi gollwng anifeiliaid eraill ar y safle hwnnw (erthygl 2(3)(a)).
Mae'n cywiro camgymeriad sy'n ymwneud â'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid llofnodi datganiad (erthygl 2(3)(b)).
O ran anifeiliaid a fewnforir, mae'n cyfyngu'r symudiadau nad ydynt yn ysbarduno'r cyfnod segur i symudiad i'r safle cyntaf wedi'r mewnforio (erthygl 2(3)(c)).
Mae'n newid y darpariaethau ar drwyddedau penodol, ac mae'n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer dogfennau symud pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n gwneud dogfen symud yn ofynnol(erthygl 2(4)).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.