Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.27)).

Dyma'r prif newidiadau a wneir i'r Gorchymyn—

(a)diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Chwefror 2003 i 1 Ebrill 2003) (erthygl 3);

(b)diwygio diffiniadau o Farciau F, R a Marciau Tarddiad i gynnwys Rhif adnabod unigol ar gyfer y ddafad neu'r afr, ond dim ond ar gyfer defaid neu eifr na ddodwyd un o'r marciau hynny arnynt eisoes cyn i'r Gorchymyn hwn ddod yn effeithiol ar 31 Ionawr 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi i'r Gorchymyn hwn.