2003 Rhif 167 (Cy.27)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 20022.

Diwygio erthygl 13

Yn erthygl 1(2) o'r prif Orchymyn rhoddir y geiriau “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.

Diwygio erthygl 24

Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mewnosodir y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn y wyddor—

  • ystyr “Marc” (“Mark”) yw un o'r canlynol: Marc F, Marc R, Marc S, Marc Tarddiad, neu Farc X;

  • ystyr “Marc F” (“F Mark”) yw Marc F yn unol ag erthygl 6(1) a (4);

  • ystyr “Marc R” (“R Mark”) yw Marc R yn unol ag erthygl 6(1) a (6);

  • ystyr “Marc S” (“S Mark”) yw Marc S yn unol ag erthygl 6(1) a (7);

  • ystyr “Marc Tarddiad” (“Origin Mark”) yw Marc Tarddiad yn unol ag erthygl 6(1) a (5);

  • mae i “Rhif adnabod unigol” (“individual identification number”) yr ystyr a roddir yn erthygl 6(9) a (10);

Mewnosod erthygl 2A5

Ar ôl erthygl 2, mewnosodir yr erthygl canlynol—

Dodi neu gofnodi Rhif au adnabod unigol2A

Yn y Gorchymyn hwn nid yw cyfeiriad at ofyniad i ddodi neu gofnodi Rhif adnabod unigol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rhif adnabod unigol gael ei ddodi na'i gofnodi os yw'r Rhif hwnnw wedi ei ddodi neu ei gofnodi eisoes fel rhan o Farc.

Diwygio erthygl 46

1

Caiff erthygl 4 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.

2

Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—

iv

os bydd dafad yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;

3

Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—

2A

Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol y ddafad a symudwyd.

Diwygio erthygl 57

1

Caiff erthygl 5 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.

2

Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—

iv

os bydd gafr yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;

3

Ym mharagraff (2), is-baragraff (f) o'r testun Saesneg yn unig, rhoddir y geiriau “to or from a show” yn lle “to a show”.

4

Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—

2A

Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr afr a symudwyd.

Diwygio erthygl 68

1

Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

2

Yn lle paragraff (4) rhoddir y canlynol—

4

Marc F—

a

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a

cc

y llythyren “F”; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;

cc

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

chch

y llythyren “F”; neu

b

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

aa

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a

bb

y llythyren “F”; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;

bb

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

cc

y llythyren “F”;

3

Yn lle paragraff (5) rhoddir y canlynol—

5

Marc Tarddiad—

a

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

cc

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu

b

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003, marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

bb

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;

4

Yn lle paragraff (6) rhoddir y canlynol—

6

Marc R—

a

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

cc

y llythyren “R”; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

y llythrennau “UK”;

bb

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

cc

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

chch

y llythyren “R”; neu

b

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

i

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

aa

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

bb

y llythyren “R”; neu

ii

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

aa

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

bb

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

cc

y llythyren “R”;

Diwygio erthygl 79

Yn lle paragraff (2) o erthygl 7 o'r prif Orchymyn, rhoddir y canlynol—

2

Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail—

a

a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol ag erthygl 8(4) neu (5) neu erthgyl 15 o Orchymyn Defaid a Geifr 2000; neu

b

a oedd wedi ei farcio â Marc Tarddiad ar 31 Ionawr 2003 neu cyn hynny.

Diwygio erthygl 910

Yn erthygl 9(2)(dd) o'r prif Orchymyn, dilëir y geiriau “ac wedi'i farcio â Rhif adnabod unigol”.

Diwygio erthygl 1211

1

Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

2

Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(ii), yn lle “Reoliadau 2000; neu” rhoddir “Reoliadau 2000;”.

3

Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(iii), mewnosodir “neu” ar ôl “Marc R”.

4

Yn lle paragraff (2), is-baragraff (a)(iv) rhoddir y canlynol—

iv

os yw anifail yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;

5

Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y paragraff canlynol—

2A

Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan baragraffau (2)(a)(ii) neu (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail a symudwyd.

Diwygio erthygl 1312

1

Diwygir erthygl 13 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

2

Yn lle paragraff (2), is-baragraffau (b) ac (c) rhoddir y canlynol—

b

os Marc Tarddiad oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—

i

tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu

ii

tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;

c

os Marc F oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—

i

tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F; neu

ii

tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F;

ch

os Marc R oedd y Marc gwreiddiol, dodi Marc R newydd; neu

d

os na ellir gwneud y gweithredoedd yn is-baragraffau (a), (b), (c), dodi Marc R.

3

Ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol—

2A

Rhaid i Farc a ddodwyd o dan is-baragraffau (2)(b), (c) neu (ch) gael ei groesgyfeirio â'r Marc gwreiddiol yn y cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan erthygl 4 neu 5.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

John MarekDirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
WhittyIs-Ysgrifennydd SeneddolAdran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.27)).

Dyma'r prif newidiadau a wneir i'r Gorchymyn—

a

diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Chwefror 2003 i 1 Ebrill 2003) (erthygl 3);

b

diwygio diffiniadau o Farciau F, R a Marciau Tarddiad i gynnwys Rhif adnabod unigol ar gyfer y ddafad neu'r afr, ond dim ond ar gyfer defaid neu eifr na ddodwyd un o'r marciau hynny arnynt eisoes cyn i'r Gorchymyn hwn ddod yn effeithiol ar 31 Ionawr 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi i'r Gorchymyn hwn.