Diwygio erthygl 68.

(1)

Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

(2)

Yn lle paragraff (4) rhoddir y canlynol—

“(4)

Marc F—

(a)

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a

(cc)

y llythyren “F”; neu

(ii)

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;

(cc)

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(chch)

y llythyren “F”; neu

(b)

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

y llythyren “F”;”.

(3)

Yn lle paragraff (5) rhoddir y canlynol—

“(5)

Marc Tarddiad—

(a)

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

(ii)

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

(cc)

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu

(b)

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003, marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

(ii)

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)

marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

(bb)

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;”.

(4)

Yn lle paragraff (6) rhoddir y canlynol—

“(6)

Marc R—

(a)

pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

(cc)

y llythyren “R”; neu

(ii)

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)

y llythrennau “UK”;

(bb)

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

(cc)

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(chch)

y llythyren “R”; neu

(b)

pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)

os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

(bb)

y llythyren “R”; neu

(ii)

os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)

marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

(bb)

Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(cc)

y llythyren “R”;”.