Diwygio erthygl 46.
(1)
Caiff erthygl 4 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.
(2)
Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—
“(iv)
os bydd dafad yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;”.
(3)
Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—
“(2A)
Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol y ddafad a symudwyd.”.