Diwygio'r Prif Reoliadau2

1

Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at “Rheoliadau 2001” a'r diffiniad.

2

Yn rheoliad 3(1)(a) o'r Prif Reoliadau (Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd), tynnir y geiriau “rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001” a rhoi yn eu lle y geiriau “rheoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 19763”.