Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003.
(2)
Mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin 2003.
(3)
(4)
Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio'r Prif Reoliadau2.
(1)
Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at “Rheoliadau 2001” a'r diffiniad.
(2)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 (“Rheoliadau Cymru”) i adlewyrchu newidiadau arfaethedig i adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976 pan ddaw'r rhannau perthnasol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym. Effaith y newidiadau hynny yw bod Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001, y mae Rheoliadau Cymru 2001 yn cyfeirio atynt, yn peidio â bod yn effeithiol. Mae'r rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriad hwnnw a rhoi yn ei le gyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976.