- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Mehefin 2003
Yn dod i rym
25 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), 9(3) a 9(5) o Ddeddf Mabwysiadu 1976(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin 2003.
(3) ystyr “y prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001(2).
(4) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at “Rheoliadau 2001” a'r diffiniad.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a) o'r Prif Reoliadau (Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd), tynnir y geiriau “rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001” a rhoi yn eu lle y geiriau “rheoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976(3)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mehefin 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 (“Rheoliadau Cymru”) i adlewyrchu newidiadau arfaethedig i adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976 pan ddaw'r rhannau perthnasol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym. Effaith y newidiadau hynny yw bod Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001, y mae Rheoliadau Cymru 2001 yn cyfeirio atynt, yn peidio â bod yn effeithiol. Mae'r rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriad hwnnw a rhoi yn ei le gyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976.
1976 p.36 (“Deddf 1976”). Mae swyddogaethau'r Gwasanaeth Mabwysiadu sydd wedi eu nodi yn adran 1 o Ddeddf 1976, y mae'r pwerau o dan adran 9(2) a (3) yn cael eu harfer mewn perthynas â hwy, wedi eu diwygio gan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18) (“Deddf 1999”).
1976 p. 36. Mewnosodwyd adran 56A gan adran 14 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18). Bydd rheoliadau 2001, a wnaed o dan adran 56A, yn peidio â bod yn effeithiol o'r diwrnod pan ddaw i rym adran 56A newydd a gaiff eu cyflwyno gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: