Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Mae Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae paragraffau (1) i (3) o Reoliad 4 o Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'i weithrediaeth.
Mae Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 yn darparu ei bod yn un o ddyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth, a elwir “strategaeth iechyd a llesiant”, ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal pob awdurdod lleol.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y cyfrifoldeb dros fabwysiadu strategaeth iechyd a llesiant yn swyddogaeth na chaniateir iddi fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.
Yn ychwanegol, mae'r cyfrifoldebau dros fabwysiadu Cynllun Gwasanaethau Plant a Chynllun Gofal Cymunedol yn cael eu dileu o Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001.