(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 3 Chwefror 2003, yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 (O.S. 1992/2677, fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573) (“y prif Reoliadau”).

Maent yn diwygio'r prif Reoliadau cyn belled ag y mae'r rheiny'n ymwneud “i raddau perthnasol” ag unrhyw gynhyrchydd at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 sy'n gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3). Y “graddau perthnasol” at y diben hwn yw'r graddau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw, yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573).

Mae'r Rheoliadau yn mewnosod yn y prif Reoliadau reoliad 8 newydd sy'n gosod gofynion ar y cynhyrchwyr hynny i gadw cofnodion ynglŷn â digwyddiadau penodedig. Yn ychwanegol, maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae'r gofynion hyn ynglŷn â chadw cofnodion yn gweithredu Erthygl 4(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor (EC) Rhif 92/102 ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac maent yn ofynion a gafodd eu pennu o'r blaen yn erthygl 5 o Reoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2335 (Cy.152)).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.