Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer pob ardal o Gymru yn unol ag adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (gweler O.S. 2003/148).
Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am arfer swyddogaethau, (yn ddarostyngedig i rai eithriadau penodedig sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd arbenigol, iechyd y cyhoedd a swyddogaethau sydd i'w cyflawni ar lefel ranbarthol), a oedd yn cael eu harfer gan gyn Awdurdodau Iechyd mewn perthynas ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer ac sydd wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (Rheoliad 3(2) a'r Atodlen).
Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn arfer eu swyddogaethau er budd y personau hynny sydd fel arfer yn preswylio yn eu hardal (Rheoliad 1(2)).