Yr oedd y ddogfen strategaeth “Gwella Iechyd yng Nghymru”, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo swyddogaethau'r Awdurdodau Iechyd a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd iddynt.
Mae Byrddau Iechyd Lleol i'w sefydlu gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18) a byddant yn dechrau gweithredu ar 1 Ebrill 2003. Nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol.