Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Galluogodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, awdurdod lleol yng Nghymru a weithredai drefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau fel y cyflawnir ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol drwy gyfrwng cyd-bwyllgor.

Darparodd Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) mai aelodau o weithrediaethau yn unig y gellir eu penodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a ddiwygiodd Reoliadau 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer penodi positif fel y gallai aelodau nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth a swyddogion wasanaethu ar gyd-bwyllgorau.