- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Ionawr 2003
Yn dod i rym yn unol â darpariaethau Rheoliad 1(1)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) a (2), 19(1), (2), (4), (5) a (6), 20(1) a (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Rheoliadau hyn eu llofnodi.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002(3).
3. Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (Aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, gellir penodi aelod neu swyddog awdurdod lleol i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth, ac, yn achos aelod, ni waeth a yw'r person hwnnw yn aelod o'r weithrediaeth honno ai peidio, ac ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Galluogodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, awdurdod lleol yng Nghymru a weithredai drefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau fel y cyflawnir ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol drwy gyfrwng cyd-bwyllgor.
Darparodd Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) mai aelodau o weithrediaethau yn unig y gellir eu penodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a ddiwygiodd Reoliadau 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer penodi positif fel y gallai aelodau nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth a swyddogion wasanaethu ar gyd-bwyllgorau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: