Rhan IIGWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ÔL DISGRESIWN
Gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y person â hawl3.
(1)
Rhaid i berson â hawl sy'n dymuno gwahardd neu gyfyngu mynediad i ddarn o dir mynediad o dan adran 22 o'r Ddeddf (gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y perchennog ac eraill) gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn er mwyn gwneud hynny.
(2)
Rhaid i berson â hawl roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad ysgrifenedig, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(a)
enw, cyfeiriad a chod post y person â hawl;
(b)
os yw'r person â hawl yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;
(c)
datganiad o natur buddiant y person â hawl yn y tir;
(ch)
disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;
(d)
datganiad a yw'r person â hawl yn dymuno gwahardd mynediad neu, fel arall, ei gyfyngu ac, os yw am ei gyfyngu, manylion y cyfyngiad; ac
(dd)
y dyddiadau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r person â hawl yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ar y diwrnod hwnnw.
(3)
Oni fydd paragraff (4) neu (6) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig er mwyn iddo ddod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod y mae unrhyw waharddiad neu gyfyngiad i fod yn weithredol arNo.
(4)
Mae'r paragraff hwn yn gymwys:
(a)
os yw'r person â hawl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) ond nad yw'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o'r paragraff hwnnw; a
(b)
os oes o leiaf bum diwrnod wedi mynd heibio ers i'r hysbysiad hwnnw ddod i law'r awdurdod perthnasol.
(5)
Os yw paragraff (4) yn gymwys, caiff y person â hawl wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol â'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a) a'r hysbysiad pellach y cyfeiriwyd ato yn y paragraff hwn drwy roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o baragraff (2), yn ysgrifenedig neu ar lafar (gan gynnwys dros y ffôn), fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol ar y diwrnod gwaith olaf cyn y bwriedir i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad fod yn gymwys neu cyn hynny.
(6)
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol:
(a)
wedi cael hysbysiad, boed ysgrifenedig neu beidio, a hwnnw'n hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (dd) o baragraff (2);
(b)
wedi penderfynu nad oedd yn rhesymol arferol i'r person â hawl gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) o'r rheoliad hwn; ac
(c)
yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r person â hawl, neu os oedd y person â hawl wedi rhoi hysbysiad drwy asiant, i'r asiant hwnnw.
(7)
Os yw paragraff (6) yn gymwys, mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i ddod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6)(c) i'r person â hawl neu asiant y person â hawl, yn ôl fel y digwydd.
(8)
Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (6)(b), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (7), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r person â hawl.
(9)
Caiff person â hawl sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol, roi, yn ddarostyngedig i baragraff (10), hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r awdurdod perthnasol ac, os bydd yr hysbysiad hwnnw yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod yr oedd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol.
(10)
Nid yw paragraff (9) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir os yw'r person â hawl, ers 1 Ionawr yn y flwyddyn honno, eisoes wedi rhoi pum hysbysiad i'r awdurdod perthnasol dan sylw o dan y paragraff hwnnw mewn perthynas â'r tir hwnnw neu dir sy'n cynnwys y tir hwnnw.
Cyfyngu mynediad â chŵ n4.
(1)
Rhaid i berchennog tir mynediad sy'n dymuno cyfyngu hawl mynediad i ddarn o'r tir mynediad hwnnw o dan adran 23 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar gŵn yn ôl disgresiwn y perchennog) gydymffurfio, er mwyn gwneud hynny, â gofynion y rheoliad hwn.
(2)
Rhaid i'r perchennog roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(a)
enw, cyfeiriad a chod post y perchennog;
(b)
os yw'r perchennog yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;
(c)
datganiad o natur buddiant y perchennog yn y tir;
(ch)
disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir hwnnw a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;
(d)
datganiad a yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, adran 23(2) o'r Ddeddf; ac
(dd)
y dyddiadau y mae'r gwahoddiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r perchennog yn dymuno i'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y bydd y cyfyngiad ar waith ar y diwrnod hwnnw.
(3)
Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf 28 diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.
(4)
Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(2) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.
(5)
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r perchennog gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) (yn ôl fel y digwydd) ac yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r perchennog neu, os rhoddodd y perchennog hysbysiad drwy asiant, yr asiant hwnnw.
(6)
Os yw paragraff (5) yn gymwys, bydd y cyfyngiad yn dod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5) i'r perchennog neu asiant y perchennog, yn ôl fel y digwydd.
(7)
Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (5), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r perchennog.
(8)
Caiff perchennog sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol (neu, os yw'r cyfyngiad eisoes wedi dod yn weithredol, nad yw'n dymuno iddo bara) roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol o'r effaith honno ac—
(a)
os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol cyn i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol;
(b)
os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol ar ôl i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, mae effaith y cyfyngiad yn dod i ben.