(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (OS 1992/661) (“Rheoliadau 1992”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 (OS 1989/394) (“Rheoliadau 1989”).

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y darperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol odanynt yn ôl Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliadau 1989 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r ffioedd a godir am wasanaethau deintyddol cyffredinol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 1992 sy'n pennu'r oedran pan fydd yn rhaid i Awdurdod Iechyd dynnu deintydd oddi ar ei restr ddeintyddol ar y sail bod y deintydd wedi cyrraedd ei 65 oed. Mae'r diwygiad yn codi'r oedran a bennir i 70 oed.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1992, sy'n pennu'r telerau gwasanaeth sy'n gymwys i ddeintyddion drwy roi paragraff 17 newydd yn yr Atodlen honno. Mae'r paragraff newydd yn galluogi ystod ehangach o driniaethau achlysurol i'w darparu o dan y gwasanaethau deintyddol cyffredinol drwy gael gwared â'r gwahaniaeth rhwng y driniaeth sydd ar gael i gleifion sydd heb gofrestri a'r hyn sydd ar gael i'r cleifion achlysuron hynny sydd wedi cofrestri â deintydd mewn man arall. Mae hefyd yn darparu, os bydd deintydd yn llenwi dant neu wreiddyn dant o dan driniaeth achlysurol, fod y deintydd, gyda rhai eithriadau, o dan ddyletswydd i drwsio neu ail-wneud gwaith llenwi o'r fath ar gyfer y claf heb ffi hyd at 12 mis ar ôl ei ddarparu.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1989 ymhellach i ddarparu nad yw ffi yn cael ei godi ar glaf os yw'r deintydd yn trwsio neu ail-wneud gwaith llenwi yn unol â pharagraff 17(4) o Atodlen 1 i Reoliadau 1992 (trwsio neu ail-wneud gwaith llenwi a wnaed gan ddeintydd fel triniaeth achlysurol). Mae hefyd yn estyn rheoliad 3(2)(f) i ddarparu bod pobl sydd yn iau na 25 oed a'r rhai sydd wedi cyrraedd eu 60 oed yn cael, cyhyd ag y gwneir datganiad o hawl yn y modd a ragnodir, asesiad i'w wneud yn unol â pharagraff 17(2)(a) o Atodlen 1, yn rhad ac am ddim.