Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) er mwyn darparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol i ddefnyddiwr gwasanaeth —
datganiad ynghylch ffioedd y cartref ar gyfer llety, nyrsio a gofal personol, a gwybodaeth arall mewn perthynas â thalu ffioedd;
manylion unrhyw gynnydd yn y ffioedd neu amrywiad arall yn y materion y cyfeirir atynt yn y datganiad, a rhaid i'r wybodaeth hon gael ei darparu o leiaf fis cyn y bydd effaith i'r cynnydd neu'r amrywiad;
datganiad ynghylch taliadau penodol a wnaed gan Awdurdod Iechyd mewn perthynas â nyrsio a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth gan y cartref.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref ar gael i bawb sy'n gofyn am gopi, ac maent yn cywiro gwall drafftio yn Rheoliadau 2002.