(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu (o £260 i £375) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.