Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”) sy'n rheoleiddio dewis ymarferwyr cyffredinol i lanw swyddi gwag mewn practisiau.

Yn dilyn diddymu'r Pwyllgor Practisiau Meddygol gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu cyfundrefn newydd er mwyn i Awdurdodau Iechyd nodi swyddi gwag ac er mwyn gosod amodau ymarfer ar ymarferwyr cyffredinol sy'n llenwi'r swyddi gwag hynny. Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau.

O dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol y swyddogaeth o gyhoeddi tystysgrifau i ymarferwyr cyffredinol nad yw deliad yn cynnwys gwerthu ewyllys da ac mae rheoliadau 24 a 27 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae Rheoliad 29 yn gwneud darpariaethau trosiannol ynglyn â thrin ceisiadau i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol fel ceisiadau i'r Ysgrifennydd Gwladol os yw'r ceisiadau am dystysgrif neu am farn nad yw deliadau penodol yn cynnwys gwerthu neu brynu ewyllys da practis meddygol ac os yw'r ceisiadau heb eu penderfynu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliad 24 yn digwygio rheoliad 18L er mwyn darparu darpariaethau trosiannol newydd sy'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i Ran III o'r prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn.