Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
- ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 20002;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Datgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat2.
At ddiben adran 68 o'r Ddeddf (personau sydd wedi'u datgymhwyso rhag bod yn rhieni maeth preifat) mae person wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat—
(a)
os yw'r person wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a bennir yn Rhan I o'r Atodlen; neu
(b)
os yw'r person yn berson perthnasol a grybwyllir yn Rhan II o'r Atodlen.
Datgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant a darparu gofal dydd3.
(1)
At ddiben paragraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (datgymhwyso rhag cofrestru) mae person, yn ddarostyngedig i reoliad 4, wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd—
(a)
os yw'r person wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen; neu
(b)
os yw'r person yn berson perthnasol a grybwyllir yn Rhannau II neu III o'r Atodlen; neu
(c)
os yw'r person wedi'i ddatgymhwyso ar unrhyw bryd rhag maethu plentyn yn breifat.
(2)
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae person sy'n byw—
(a)
ar yr un aelwyd â pherson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1); neu
(b)
ar aelwyd lle mae unrhyw berson o'r fath yn cael ei gyflogi,
wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.
Hepgoriadau awdurdod lleol4.
Rhaid peidio ag ystyried bod person wedi'i ddatgymhwyso o dan reoliad 3 os oedd y person, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym—
(a)
wedi datgelu ffeithiau i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf a fyddai'n datgymhwyso'r person o dan reoliad 3; a
(b)
wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.
Diddymu5.
YR ATODLEN
RHAN I
Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr
1.
Llofruddiaeth.
2.
Dynladdiad.
3.
Herwgipio.
4.
Camgarcharu.
5.
6.
Tramgwydd o dan adran 18, 20 neu 47 o'r Ddeddf honno (clwyfo ac achosi niwed corfforol).
7.
8.
9.
10.
Tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o'r Ddeddf honno (caffael menyw drwy fygythion neu haeriad anwir).
11.
Tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau er mwyn sicrhau neu hwyluso cyfathrach).
12.
Tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (cyfathrach â merch o dan 13).
13.
Tramgwydd o dan adran 6 o'r Ddeddf honno (cyfathrach â merch o dan 16).
14.
15.
Tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol).
16.
Tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn).
17.
Tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw).
18.
Tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16.
19.
Tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred anwedduster dybryd gyda phlentyn.
20.
Tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus).
21.
Tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth).
22.
Tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo).
23.
Tramgwydd o dan adran 19 neu 20 o'r Ddeddf honno (herwgydio merch o dan 18 neu 16).
24.
Tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol o riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn allan o feddiant rhiant neu warcheidwad y plentyn.
25.
Tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri i fenywod buteinio).
26.
Tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21).
27.
Tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (cadw menyw mewn puteindy neu safle arall).
28.
Tramgwydd o dan adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio safle ar gyfer cyfathrach).
29.
Tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio safle ar gyfer cyfathrach).
30.
Tramgwydd o dan adran 28 o'r Ddeddf honno (peri i ferch o dan 16 buteinio neu ei hannog i wneud hynny, neu beri i berson gael cyfathrach â merch o'r fath neu i ymosod yn anweddus arni neu annog person i wneud hynny).
31.
Tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri i berson diffygiol buteinio neu ei annog i wneud hynny) .
32.
Tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra).
33.
Tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth ar butain).
34.
35.
36.
(a)
caffael plentyn i gyflawni gweithred sodomiaeth gydag unrhyw berson, neu
(b)
caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred sodomiaeth gyda phlentyn.
37.
Tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw).
38.
39.
40.
41.
42.
43.
44.
45.
46.
Tramgwydd o dan adran 44(15), 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau rhwystro a thramgwyddau mewn perthynas â herwgydio plentyn mewn gofal).
47.
48.
49.
50.
Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny—
(a)
adran 11(1) (methu â chofrestru);
(b)
adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);
(c)
adran 25 (torri rheoliadau);
(ch)
adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu
(d)
adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).
51.
Tramgwydd—
(a)
helpu, annog, cwnsela neu ysgogi person i gyflawni tramgwydd a bennir ym mharagraffau 1 i 50 o'r Atodlen hon, neu beri iddynt wneud hynny; neu
(b)
cynllwynio neu geisio cyflawni tramgwydd o'r fath.
Tramgwyddau yn yr Alban
52.
Tramgwydd trais rhywiol.
53.
Llofruddiaeth.
54.
Lladdiad beius.
55.
56.
Tramgwydd o dan adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (ysgogi etc. person absennol).
57.
58.
Tramgwydd cyfraith gwlad yn yr Alban, sef plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd).
59.
Tramgwydd o dan adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn perthynas â phornograffi) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16.
60.
61.
Tramgwydd o dan adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984 (cymryd plentyn o'r Deyrnas Unedig neu ei anfon oddi yno).
62.
63.
Tramgwydd o dan adran 78 o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd).
64.
65.
Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).
66.
(a)
adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);
(b)
adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu
(c)
adran 29(10) (tramgwyddau mewn rheoliadau).
Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon
67.
Tramgwydd trais rhywiol.
68.
69.
Tramgwydd o dan adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (ysgogi etc. person absennol).
70.
71.
Tramgwydd o dan adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn perthynas â phornograffi) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed.
72.
73.
74.
75.
Tramgwydd o dan adran 32(3), 140(6) neu 144(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.
76.
77.
Tramgwydd o dan Erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu'n breifat).
78.
Tramgwydd o dan Erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
79.
Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).
Tramgwyddau eraill
80.
Unrhyw dramgwydd, heblaw'r tramgwyddau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 79, sy'n cynnwys niwed neu fygythiad niwed i berson arall.
81.
Tramgwydd yn rhinwedd—
(a)
(b)
RHAN II
1.
Mae'r person perthnasol yn rhiant i blentyn sydd wedi'i wneud ar unrhyw adeg yn destun gorchymyn o dan—
(a)
adran 31(1) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal a goruchwylio); neu
(b)
erthygl 50(1) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal a goruchwylio).
2.
Mae un o'r gorchmynion canlynol wedi'i wneud ar unrhyw adeg mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn o ofal y person perthnasol neu er mwyn atal y plentyn rhag byw gyda'r person—
(a)
(b)
(c)
(ch)
gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995; neu
(d)
3.
Mae gofyniad goruchwylio wedi'i osod o dan—
(a)
(b)
adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995
ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw blentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal y person perthnasol.
4.
Mae hawliau a phwerau'r person perthnasol mewn perthynas â'r plentyn wedi'u breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod lleol yn yr Alban—
(a)
(b)
yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
5.
Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw bryd mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu mae'r person hwnnw wedi rhedeg cartref gwirfoddol neu gartref plant neu yr oedd fel arall yn ymwneud â'i reoli, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac mae cofrestriad y cartref hwnnw wedi'i ganslo o dan y canlynol, yn ôl fel y digwydd—
(a)
(b)
paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c)
(ch)
Erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
6.
Mae gwaharddiad wedi'i osod mewn perthynas â'r person perthnasol o dan—
(a)
(b)
erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (y pŵer i wahardd maethu'n breifat); neu
(c)
adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pwer i wahardd cadw plant maeth).
7.
8.
Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw bryd mewn perthynas â darparu gofal dydd neu feithrinfeydd neu waith gwarchod plant neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd—
(a)
(b)
(c)
Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995; neu
(ch)
9.
Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw adeg neu mae cofrestriad o'r fath wedi'i ganslo—
(a)
(b)
mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plant, o dan Rhan I o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001.
10.
RHAN III
1.
2.
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant 1991, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Maent yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat (rheoliad 2). Yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf Plant 1989, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae person sydd wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat yn cael ei ddatgymhwyso hefyd rhag rhedeg cartref plant neu ymwneud â'i reoli, neu gael unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac ni chaniateir iddo gael ei gyflogi mewn cartref plant heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd (rheoliad 3). Maent yn darparu hefyd ar gyfer datgymhwyso personau sy'n byw ar yr un aelwyd â rhywun sydd wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestriad o'r fath neu ar aelwyd lle mae'r cyfryw berson sydd wedi'i ddatgymhwyso yn cael ei gyflogi rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer achosion lle mae cydsyniad wedi'i roi cyn bod y Rheoliadau wedi dod i rym i bersonau gan awdurdod lleol ac effaith y cydsyniad yw caniatáu iddynt weithredu mewn amgylchiadau lle buasent fel arall wedi'u datgymhwyso. Mewn achosion o'r fath ni fydd y personau o dan sylw yn cael eu hystyried yn bersonau sydd wedi'u datgymhwyso o ganlyniad i'r amgylchiadau hynny o dan y Rheoliadau hyn.