(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant 1991, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Maent yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat (rheoliad 2). Yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf Plant 1989, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae person sydd wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat yn cael ei ddatgymhwyso hefyd rhag rhedeg cartref plant neu ymwneud â'i reoli, neu gael unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac ni chaniateir iddo gael ei gyflogi mewn cartref plant heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd (rheoliad 3). Maent yn darparu hefyd ar gyfer datgymhwyso personau sy'n byw ar yr un aelwyd â rhywun sydd wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestriad o'r fath neu ar aelwyd lle mae'r cyfryw berson sydd wedi'i ddatgymhwyso yn cael ei gyflogi rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer achosion lle mae cydsyniad wedi'i roi cyn bod y Rheoliadau wedi dod i rym i bersonau gan awdurdod lleol ac effaith y cydsyniad yw caniatáu iddynt weithredu mewn amgylchiadau lle buasent fel arall wedi'u datgymhwyso. Mewn achosion o'r fath ni fydd y personau o dan sylw yn cael eu hystyried yn bersonau sydd wedi'u datgymhwyso o ganlyniad i'r amgylchiadau hynny o dan y Rheoliadau hyn.