Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswydd i awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau a llunio cynllun perfformiad gwerth gorau (yn y Gorchymyn hwn fe'u gelwir yn “gynlluniau gwella”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Rhaid i awdurdodau yng Nghymru (ac eithrio awdurdod a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu eu holl swyddogaethau (yn y Gorchymyn hwn fe elwir adolygiad o'r fath yn “ddadansoddiad awdurdod cyfan”) o fewn cyfnod penodol sydd i'w bennu mewn Gorchymyn sydd i'w wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau gwella ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol cyn y dyddiad a gaiff ei bennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn. Rhaid i archwilwyr anfon copïau o'u hadroddiadau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella o'r fath at yr awdurdodau perthnasol, y Comisiwn Archwilio ac, os yw'n ofynnol, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y dyddiad a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod ar gyfer cynnal adolygiadau. Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau awdurdodau ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon copïau o adroddiadau archwilwyr. Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000, sy'n cael ei ddiddymu, a dylid darllen y Gorchymyn hwn ar y cyd â'r canllawiau a elwir “Wales Programme for Improvement: Guidance for Local Authorities” a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.