Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.

0 8 Ebrill 2002 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £16.80 yr wythnos at eu hanghenion personol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001 (a oedd yn darparu ar gyfer y swm y rhagdybid bod ar breswylwyr ei angen o 9 Ebrill 2001 ymlaen) sy'n cael eu diddymu.