(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.
Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £18,500. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf o £18,500 i £19,000. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sy'n cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio terfynau uchaf ac isaf cyfalaf o'r fath fel bod pob £250 cyflawn rhyngddynt, neu unrhyw ran ohono nad yw'n £250 cyflawn, yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.