Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2002
Yn dod i rym
22 Mawrth 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 93 a 94(1)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(2), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o'r Ddeddf honno, a rhoi sylw i'r materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno, fel sy'n ofynnol o dan adran 93(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 22 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 2 (rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu) i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997(3) fel a ganlyn—
(2) ym mharagraff 4, yn lle “and (c) for any subsequent year, 56%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 56%; and (d) for any subsequent year, 59%.”.
(3) ym mharagraff 5, yn lle “and (c) for any subsequent year, 18%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 18%; and (d) for any subsequent year, 19%.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 (“y Prif Reoliadau”) yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio, ac yn gosod rhwymedigaethau cysylltiedig arnynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r targedau adennill ac ailgylchu yn Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau ar gyfer 2002 ymlaen. Defnyddir y targedau hyn er mwyn cyfrifo rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu. Mae Rheoliad 2(2) yn codi'r darged ar gyfer adennill o 56% i 59% ac mae rheoliad 2(3) yn codi'r darged ar gyfer ailgylchu o 18% i 19%.
1995 p. 25; gweler adran 93(8) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1997/648, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1361, O.S. 1999/3447 ac O.S. 2000/3375.