Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 22 Mawrth 2002.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 19972.
(1)
(2)
ym mharagraff 4, yn lle “and (c) for any subsequent year, 56%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 56%; and (d) for any subsequent year, 59%.”.
(3)
ym mharagraff 5, yn lle “and (c) for any subsequent year, 18%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 18%; and (d) for any subsequent year, 19%.”.
Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 (“y Prif Reoliadau”) yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio, ac yn gosod rhwymedigaethau cysylltiedig arnynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r targedau adennill ac ailgylchu yn Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau ar gyfer 2002 ymlaen. Defnyddir y targedau hyn er mwyn cyfrifo rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu. Mae Rheoliad 2(2) yn codi'r darged ar gyfer adennill o 56% i 59% ac mae rheoliad 2(3) yn codi'r darged ar gyfer ailgylchu o 18% i 19%.