xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Rhaid i berson beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant o dan wyth oed.
(2) Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant ar ei ben ei hun neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, ac yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3); neu
(b)yn achos person sy'n darparu gofal dydd, yn gorff a—
(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) sy'n un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion y corff neu'n un o'i swyddogion eraill ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith darparu gofal dydd o'r fath; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i ofalu am blant o dan wyth oed;
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth oed;
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) wedi'i dwyn i rym.
(5) Nid yw person yn addas i weithredu fel gwarchodwr plant nac i ddarparu gofal dydd—
(a)os yw'r person wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi'i hatafaelu ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau a bod y gorchymyn methdaliad heb ei ddirymu nac wedi'i ddadwneud; neu
(b)os yw'r person wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.
1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.