Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Mae'n diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/274 (Cy.30) (y prif Orchymyn) sydd, am gyfnod dros dro hyd 30 Tachwedd 2002 yn gosod gofynion mewn perthynas ag adnabod, cofrestru a symud defaid a geifr.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â'r diffiniadau o “assembly centre”, “collecting centre” a “temporary grazing land”.
Diwygir erthyglau 4 a 5 o'r prif Orchymyn, yn bennaf drwy ei gwneud yn ofynnol i draws-gyfeirio marc X â'r cofnodion a gedwir o ddefaid neu eifr.
Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn i ganiatáu i rif a roddwyd i ddafad neu afr cyn 11 Chwefror 2002 fod yn gymwys fel “an individual identification number” er na chafodd ei roddi ar yr un tag clust â'r marc.
Diwygir erthygl 9 o'r prif Orchymyn i ganiatâu i ddefaid ddychwelyd o dir pori dros dro pan fyddant wedi eu marcio â marc dros dro, ac i osod gofynion marcio ar gyfer defaid a geifr sydd yn cael eu symud i ganolfan ymgynnull neu i'w hallforio.
Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn i fynnu nodiadau canlyniadol ychwanegol ar y ddogfen symud ac i esemptio anifeiliaid sydd yn cael eu hallforio rhag yr angen i fod â dogfen symud gyda hwy.
Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn.