(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac ar ba ffurf y dylai'r trefniadau hynny ei chymryd (adran 32(1)). O dan y darpariaethau hynny y gwnaeth y Cynulliad Cenedlaethol Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n defnyddio'r un darpariaethau statudol, yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn gwneud mân newidiadau i'r ffurf angenrheidiol i'r trefniadau amgen ac er mwyn dyfarnu sut y gall cyngor gyflawni ei swyddogaeth mewn perthynas â rhai pwerau ychwanegol penodedig.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel bod rhaid i Fwrdd awdurdod lleol weithredu fel ei bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol oni ddynodir is-bwyllgor i'r Bwrdd at y diben hwnnw. Yn Rheoliad 3 mae diwygiad i reoliad 4(2) o Reoliadau 2001 hefyd yn caniatáu creu is-bwyllgor i'r Bwrdd i ymgymryd â rôl y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol os yw'r awdurdod lleol yn dewis hynny, creu pwyllgor apelau cyflogaeth a chreu hyd at bedwar pwyllgor (na chaniateir iddynt arfer ond y swyddogaethau nad yw Bwrdd awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt).
Mae'r Rheoliad hefyd yn mynnu bod awdurdod lleol sy'n penderfynu sefydlu pwyllgor neu is-bwyllgor yn unol â Rheoliad 4(2)(e) yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 i wahardd cadeirydd neu is-gadeirydd awdurdod lleol rhag bod yn aelod o'r Bwrdd.
Diwygir Atodlen 1 o Reoliadau 2001 gan Reoliad 5. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglŷn â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad hwn yn golygu hefyd fod y pŵer i wneud Gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol o dan adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 yn un y mae'n rhaid i Fwrdd awdurdod lleol beidio â'i arfer. Mae'n rhaid i'r cyngor llawn, ac nid Bwrdd awdurdod lleol, gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.