(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu deddfwriaeth ac yn gwneud darpariaethau eraill er mwyn rhoi eu heffaith lawn i ddarpariaethau yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) (trefniadau mewn perthynas â gweithrediaethau etc.) ac o ganlyniad i hynny. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Mae Erthygl 3 yn addasu adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972 ”). Mae Erthygl 3(a) yn atal yr awdurdodau lleol rhag gwneud trefniadau i swyddogaethau gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall i'r graddau y mae'r swyddogaeth o dan sylw yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw. Mewn achosion o'r fath, fe allai'r swyddogaeth (i'r graddau hynny) ddod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol hwnnw, ond nid i'r awdurdod lleol ei hun.

Mae'r addasiadau yn erthygl 3 yn darparu hefyd fod y trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan naill ai awdurdod lleol arall neu gyd-bwyllgor sy'n bodoli pryd y mae unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan ynddo yn dechrau rhoi trefniadau gweithrediaeth ar waith yn dod i ben i'r graddau y daw'r swyddogaeth o dan sylw yn gyfrifoldeb i weithrediaeth unrhyw un o'r awdurdodau hynny.

Mae Erthygl 4 yn addasu adran 102 o Ddeddf 1972 i alluogi'r awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau ardal er mwyn cyflawni swyddogaethau a ddirprwyir gan y weithrediaeth. Bydd y diwygiad yn fodd hefyd i'r awdurdodau lleol benodi pwyllgorau ymgynghorol i gynghori gweithrediaeth yr awdurdod lleol ac unrhyw bwyllgor neu aelod unigol o'r weithrediaeth honNo.

Mae Erthygl 5 yn addasu adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”), gan alluogi rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch rheolau sefydlog yr awdurdodau lleol mewn perthynas â staff gynnwys darpariaeth arbennig mewn perthynas â phenodi cynorthwyydd maer awdurdod lleol.

Os oes gan awdurdod lleol weithrediaeth maer a rheolwr cyngor, mae Erthygl 6 yn addasu adran 13 o Ddeddf 1989 i sicrhau y caiff rheolwr y cyngor, neu unrhyw swyddog arall a benodir yn lle'r person hwnnw, fod yn aelod sy'n pleidleisio o unrhyw gyd-bwyllgor (neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath) sy'n arfer swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth ac y mae'r person hwnnw yn aelod ohoNo. Mae'r erthygl hon hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Atodlen 1 i Ddeddf 2000.

Mae Erthygl 7 yn cyflwyno gofyniad i awdurdodau lleol sydd wrthi yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, neu a fydd yn eu gweithredu, wneud rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau'r awdurdod lleol ac yn pennu'r darpariaethau sydd i'w cynnwys yn y rheolau sefydlog, gan gynnwys y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth i gontractau o'r fath gael eu gwneud.