2002 Rhif 802 (Cy.87)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1), (2), 19(1), (2), (4), (5), (6), 20(1), (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001:—