Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002
Enw, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfradd y disgownt2.
6.7 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian cyfalaf awdurdodau lleol.
Mae adran 49(2) o'r Ddeddf honno'n nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.
Un o'r elfennau sy'n ffurfio'r fformwla yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfradd ganrannol o 6.7 y cant o ddisgownt sy'n 0.3 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2001/2002.