<akomaNtoso xmlns:uk="https://www.legislation.gov.uk/namespaces/UK-AKN" xmlns:ukl="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xmlns="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0" xsi:schemaLocation="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0 http://docs.oasis-open.org/legaldocml/akn-core/v1.0/cos01/part2-specs/schemas/akomantoso30.xsd"><act name="wsi"><meta><identification source="#"><FRBRWork><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2002/784"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2002/784"/><FRBRdate date="2002-03-21" name="made"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk/id/government/wales"/><FRBRcountry value="GB-WLS"/><FRBRsubtype value="order"/><FRBRnumber value="784"/><FRBRnumber value="Cy. 85"/><FRBRname value="S.I. 2002/784 (W. 85)"/><FRBRprescriptive value="true"/></FRBRWork><FRBRExpression><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/made"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/made"/><FRBRdate date="2002-03-21" name="made"/><FRBRauthor href="#"/><FRBRlanguage language="cym"/></FRBRExpression><FRBRManifestation><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/made/data.akn"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/made/data.akn"/><FRBRdate date="2026-08-13+01:00" name="transform"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk"/><FRBRformat value="application/akn+xml"/></FRBRManifestation></identification><lifecycle source="#"><eventRef refersTo="#made" date="2002-03-21" eId="date-made" source="#"/><eventRef refersTo="#coming-into-force" date="2002-04-01" eId="date-cif-1" source="#"/></lifecycle><analysis source="#"><otherAnalysis source=""/></analysis><references source="#"><TLCEvent eId="made" href="" showAs="Made"/><TLCEvent eId="cif" href="" showAs="ComingIntoForce"/><TLCRole eId="ref-d25e183" href="/ontology/role/uk.Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol" showAs="Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol"/><TLCPerson eId="ref-d25e181" href="/ontology/persons/uk.D.Elis-Thomas" showAs="D. Elis-Thomas"/></references><proprietary xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" source="#"><dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002</dc:title><dc:subject>Local Government</dc:subject><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2017-11-13</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU</dc:subject><dc:description>Sefydlodd adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) Bwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) er mwyn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar gyflawni swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â hwy.</dc:description><ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification><ukm:DocumentCategory Value="secondary"/><ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/><ukm:DocumentStatus Value="final"/><ukm:DocumentMinorType Value="order"/></ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2002"/><ukm:Number Value="784"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="85"/><ukm:Made Date="2002-03-21"/><ukm:ComingIntoForce><ukm:DateTime Date="2002-04-01"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="0110904648"/></ukm:SecondaryMetadata><ukm:Alternatives><ukm:Alternative Date="2008-11-26" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/784/pdfs/wsi_20020784_mi.pdf" Title="Print Version Mixed Language" TitleWelsh="Fersiwn ddwyieithog wedi ei hargraffu" Size="17263" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives><ukm:Statistics><ukm:TotalParagraphs Value="2"/><ukm:BodyParagraphs Value="2"/><ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/><ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/><ukm:TotalImages Value="0"/></ukm:Statistics></proprietary></meta><preface eId="preface"><block name="banner">Welsh Statutory Instruments</block><block name="number"><docNumber>2002 Rhif 784 (Cy.85)</docNumber></block><container name="subjects"><container name="subject"><block name="subject"><concept refersTo="#">DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU</concept></block></container></container><block name="title"><docTitle>Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002</docTitle></block><container name="dates"><block name="madeDate" refersTo="#date-made"><span>Wedi'i wneud</span><docDate date="2002-03-21">21 Mawrth 2002</docDate></block><block name="commenceDate" refersTo="#date-cif-1"><span>Yn dod i rym</span><docDate date="2002-04-01">1 Ebrill 2002</docDate></block></container></preface><preamble><p>GAN FOD adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998<authorialNote class="footnote" eId="f00001" marker="1"><p><ref eId="c00001" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1998/38">1998 p.38</ref>.</p></authorialNote>, (“<abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Deddf 1998</abbr>”), a rhan 1 o Atodlen 4 iddi yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pwer i drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaethau statudol y Pwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995<authorialNote class="footnote" eId="f00002" marker="2"><p><ref eId="c00002" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1995/25">1995 p.25</ref>.</p></authorialNote> (“<abbr title="Ddeddf yr Amgylchedd 1995 p. 25">Deddf 1995</abbr>”);</p><p>A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Pwyllgor Ymgynghorol, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, neu sy'n gysylltiedig â hwy, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn syrthio y tu mewn i adran 28(2)(a) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr>;</p><formula name="enactingText"><p>YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr> a rhan 1 o Atodlen 4 iddi, trwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:</p></formula></preamble><body><article eId="article-1"><heading>Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso</heading><num>1.</num><paragraph eId="article-1-1"><num>(1)</num><content><p>Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-1-2"><num>(2)</num><content><p>Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-1-3"><num>(3)</num><content><p>Yny Gorchymyn hwn ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol” (“<i>the Advisory Committee</i>”) yw'r pwyllgor a sefydlwyd o dan adran 11 o <abbr title="Ddeddf yr Amgylchedd 1995 p. 25">Ddeddf 1995</abbr> i gynghori ynglyn â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sydd fel arall yn gysylltiedig â hwy.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-1-4"><num>(4)</num><content><p>Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.</p></content></paragraph></article><article eId="article-2"><heading>Diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a darpariaethau ôl-ddilynol</heading><num>2.</num><paragraph eId="article-2-1"><num>(1)</num><content><p>Diddymir y Pwyllgor Ymgynghorol a'i swyddogaethau.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-2-2"><num>(2)</num><content><p>Diddymir adran 11 o <abbr title="Ddeddf yr Amgylchedd 1995 p. 25">Ddeddf 1995</abbr>.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-2-3"><num>(3)</num><content><p>Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau sy'n eiddo i'r Pwyllgor Ymgynghorol ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Pwyllgor Ymgynghorol.</p></content></paragraph></article><hcontainer name="signatures"><hcontainer name="signatureBlock"><content><p>Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998<authorialNote class="footnote" eId="f00003" marker="3"><p><ref eId="c00003" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1998/38">1998 p.38</ref>.</p></authorialNote></p><block name="signature"><signature refersTo="#">D. Elis-Thomas</signature></block><block name="role"><role refersTo="#">Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol</role></block><block name="date"><date date="2002-03-21">21 Mawrth 2002</date></block></content></hcontainer></hcontainer></body><conclusions><blockContainer class="explanatoryNote"><subheading>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)</subheading><blockContainer ukl:Name="P"><p>Sefydlodd adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“<abbr title="Ddeddf yr Amgylchedd 1995 p. 25">Deddf 1995</abbr>”) Bwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) er mwyn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar gyflawni swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â hwy.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Effaith Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo, yw ei bod yn ofynnol bellach i'r Pwyllgor Ymgynghorol gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Pennwyd y Pwyllgor Ymgynghorol yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“<abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Deddf 1998</abbr>”) yn gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun trwy Orchymyn o dan adran 28(1) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr>.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae adran 28(2) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr> yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol, trwy Orchymyn, ddiddymu swyddogaeth corff felly yn hytrach na'i throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'r swyddogaeth yn gofyn am i rywbeth gael ei wneud mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol (swyddogaeth cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun yn yr achos hwn).</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae adran 28(3) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr> yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu diddymu corff a bennwyd yn Rhan I o Atodlen 4 i <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr>, trwy Orchymyn, os bydd pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae adran 28(4) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr> yn darparu y gall Gorchymyn a wnaed o dan adran 28(3) gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r corff hwnnw.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae adran 28(7) o <abbr title="Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 p. 38">Ddeddf 1998</abbr> yn darparu y gall Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol gan gynnwys diddymu deddfiadau.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Effaith erthyglau 2(1) a 2(2) o'r Gorchymyn hwn yw diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a'r darpariaeth statudol o dan yr hyn y sefydlwyd y Pwyllgor. Bwriedir y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o hyn allan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol mewn perthynas â'r materion hynny y bu'r Pwyllgor Ymgynghorol yn cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol arnynt hyd yn hyn.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Pwyllgor Ymgynghorol, trwy erthygl 2(3), yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.</p></blockContainer></blockContainer></conclusions></act></akomaNtoso>