(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) Bwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) er mwyn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar gyflawni swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â hwy.
Effaith Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo, yw ei bod yn ofynnol bellach i'r Pwyllgor Ymgynghorol gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).
Pennwyd y Pwyllgor Ymgynghorol yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun trwy Orchymyn o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998.
Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol, trwy Orchymyn, ddiddymu swyddogaeth corff felly yn hytrach na'i throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'r swyddogaeth yn gofyn am i rywbeth gael ei wneud mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol (swyddogaeth cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun yn yr achos hwn).
Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu diddymu corff a bennwyd yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998, trwy Orchymyn, os bydd pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.
Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn a wnaed o dan adran 28(3) gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r corff hwnnw.
Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol gan gynnwys diddymu deddfiadau.
Effaith erthyglau 2(1) a 2(2) o'r Gorchymyn hwn yw diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a'r darpariaeth statudol o dan yr hyn y sefydlwyd y Pwyllgor. Bwriedir y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o hyn allan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol mewn perthynas â'r materion hynny y bu'r Pwyllgor Ymgynghorol yn cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol arnynt hyd yn hyn.
Mae unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Pwyllgor Ymgynghorol, trwy erthygl 2(3), yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.