Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (sy'n gorfod bod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Pennodd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) nifer o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaeth ychwanegol yn un nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 1 i Reoliadau 2001. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglŷn â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb gweithrediaeth i awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad yn mewnosod cyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y pŵer i wneud Gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag adran 13(2) yn un y mae'r rhaid iddo beidio â chael ei arfer gan weithrediaeth i awdurdod lleol. Mae i'r diwygiad hefyd yr un effaith mewn perthynas â phwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.