2002 Rhif 758 (Cy.81) (C.18)
ARBED YNNI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 4(3) o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 20001:
Enw a chymhwyso1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Dod i rym2.
Mae adran 2 o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 2 o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 i rym yng Nghymru.
Mae hyn yn gorfodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i baratoi a chyhoeddi, o fewn 12 mis o gychwyn adran 2, strategaeth yn nodi ei bolisïau ar gyfer sicrhau, drwy ddulliau sy'n cynnwys cymryd mesurau i sicrhau bod ynni'n cael ei ddefnyddio'n effeithlon, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol na fydd pobl Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd.