Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 758 (Cy.81) (C.18)

ARBED YNNI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 4(3) o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000(1):

Enw a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

Dod i rym

2.  Mae adran 2 o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 2 o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 i rym yng Nghymru.

Mae hyn yn gorfodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i baratoi a chyhoeddi, o fewn 12 mis o gychwyn adran 2, strategaeth yn nodi ei bolisïau ar gyfer sicrhau, drwy ddulliau sy'n cynnwys cymryd mesurau i sicrhau bod ynni'n cael ei ddefnyddio'n effeithlon, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol na fydd pobl Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd.