(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt er mwyn mesur perfformiad y cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2002 ymlaen.

Gwneir y Gorchymyn yn unol ag adrannau 4(1)(a) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori, cyn gwneud Gorchymyn o'r math hwn, â phersonau y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau gwerth gorau o dan sylw ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl yn dda. Mae'r gofyniad hwn i ymgynghori wedi'i fodloni cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Mae Erthygl 3 yn diffinio pa awdurdodau gwerth gorau y bydd yn rhaid mesur eu perfformiad, mewn perthynas â swyddogaethau penodol, drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad penodedig.

Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae Erthygl 4 yn rhagnodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.

Mae Atodlenni 1 i 12 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:

Atodlen 1 — Llywodraeth Gorfforaethol

Atodlen 2 — Addysg

Atodlen 3 — Gwasanaethau Cymdeithasol

Atodlen 4 — Tai

Atodlen 5 — Gwasanaethau'r Amgylchedd

Atodlen 6 — Trafnidiaeth

Atodlen 7 — Cynllunio

Atodlen 8 —Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach.

Atodlen 9 — Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol

Atodlen 10 — Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol

Atodlen 11 — Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor

Atodlen 12 — Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001 er nad y mwyafrif y dangosyddion wedi newid. Mae'r newidiadau sy'n dilyn wedi'u gwneud i'r dangosyddion yng Ngorchymyn 2001:

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u dileu:

NAWPI 2.9, 4.8, 4.9, 11.2, 12.5

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u hychwanegu:

NAWPI 2.14, 3.13, 3.14, 3.15, 4.13, 4.14, 4.15, 7.8, 10.12

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u diwygio:

NAWPI 1.8, 2.13, 3.2, 5.1, 9.2, 12.2

Yn ogystal mae yna fân ddiwygiadau drafftio wedi'u gwneud i nifer o ddangosyddion eraill.

Mae manylion y dangosyddion (a oedd yn y drydedd colofn o'r atodlenni i'r Gorchmynion blaenorol) hefyd wedi'u dileu. Mae'r manylion bellach wedi'u cynnwys mewn canllawiau i'w cyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol.