Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diddymu2.
Dehongli3.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod gwerth gorau” (“best value authority”) yw'r canlynol:
mewn perthynas â Rhan 1 o'r Tabl yn Erthygl 4, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff
mewn perthynas â Rhan 2 o'r Tabl hwnnw, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.
Dangosyddion Perfformiad4.
Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt |
Rhan 1 |
Llywodraeth Gorfforaethol |
Pob dangosydd yn Atodlen 1 |
Addysg |
Pob dangosydd yn Atodlen 2 |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Pob dangosydd yn Atodlen 3 |
Tai |
Pob dangosydd yn Atodlen 4 |
Gwasanaethau'r Amgylchedd |
Pob dangosydd yn Atodlen 5 |
Trafnidiaeth |
Pob dangosydd yn Atodlen 6 |
Cynllunio |
Pob dangosydd yn Atodlen 7 |
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach |
Pob dangosydd yn Atodlen 8 |
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol |
Pob dangosydd yn Atodlen 9 |
Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor |
Pob dangosydd yn Atodlen 11 |
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol |
Pob dangosydd yn Atodlen 12 |
Rhan 2 |
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol |
Pob dangosydd yn Atodlenni 7 a 10 |
ATODLEN 1DAGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 1.1 | Lefelau cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
NAWPI 1.2 | Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
NAWPI 1.3 | Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu. |
NAWPI 1.4 | Y gyfran o'r gofrestr etholiadol a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol (fel canran). |
NAWPI 1.5 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sy'n cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
NAWPI 1.6 | Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law. |
NAWPI 1.7 | Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 1.8 | Swm yr ardrethi annomestig a gafwyd, yn glir o ad-daliadau yn y flwyddyn adrodd fel canran o'r ardrethi gros sy'n daladwy yn y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorddewisol a gorfodol. |
NAWPI 1.9 | Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn. |
NAWPI 1.10 | Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch gan weithwyr parhaol yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.12 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.13 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.14 | Y nifer o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod. |
NAWPI 1.15 | Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl. |
NAWPI 1.16 | Digwyddiadau hiliol
|
NAWPI 1.17 | Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
ATODLEN 2DANGOSYDDION ADDYSG
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 2.1 | Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 2.2 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
NAWPI 2.3 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd un TGAU neu ragor gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
NAWPI 2.4 | Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
|
NAWPI 2.5 | Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
|
NAWPI 2.6 | Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y “dangosydd pwnc craidd” — y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad. |
NAWPI 2.7 | Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig. |
NAWPI 2.8 | Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:
|
NAWPI 2.11 | Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:
|
NAWPI 2.12 | Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda mwy na 30 disgybl yn y blynyddoedd:
|
NAWPI 2.13 (a)Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn (b)Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn “eithriadau i'r rheol” yn unol â'r Cod Ymarfer AAA (Anghgenion Addysg Arbennig): (i)a baratowyd o fewn 18 wythnos, (ii)a orffenwyd o fewn 26 wythnos. | |
NAWPI 2.14 | Y ganran o bresenoldeb y rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd neu sydd yno yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol sydd wedi'u cymeradwyo. |
ATODLEN 3DANGOSYDDION Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 3.1 | Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 3.2 | Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ):
|
NAWPI 3.3 | Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol. |
NAWPI 3.4 | Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu. |
NAWPI 3.5 | Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant. |
NAWPI 3.6 | Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am:
|
NAWPI 3.7 | Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI3.8 | Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.9 | Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu. |
NAWPI 3.10 | Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.11 | Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod. |
NAWPI 3.12 | Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion, ac y cafodd eu hachosion eu hadolygu. |
NAWPI 3.13 | Y nifer o bobl 65 neu drosodd sy'n derbyn cymorth gan yr awdurdod gwerth gorau mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI 3.14 | Y nifer o oedolion o dan 65 oed y mae'r awdurdod gwerth gorau yn eu helpu i fyw gartref am bob 1,000 o oedolion o dan 65 oed yn yr awdurdod, ym mhob un o'r grwpiau isod, o'u hystyried ar wahân:
|
NAWPI 3.15 | Y ganran o achosion lle mae plant yn derbyn gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig sy'n addas i anghenion y plentyn, ym mhob un o'r grwpiau canlynol, o'u hystyried ar wahân:
|
ATODLEN 4DANGOSYDDION TAI
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 4.1 | Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:
|
NAWPI 4.2 | Effeithlonrwydd Ynni — dosbarthiad cyfartalog y Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 4.5 | Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:
|
NAWPI 4.6 | Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith. |
NAWPI 4.7 | Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 4.10 | Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed
|
NAWPI 4.11 | Yr amser cyfartalog a gymerwyd i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys. |
NAWPI 4.12 | A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent? |
NAWPI 4.13 | Cyfranogiad tenantiaid:
|
NAWPI 4.14 | Effeithiolrwydd y dull cydgysylltiedig o ddelio â digatrefedd a thai cymdeithasol: Y nifer o aelwydydd digartref sy'n cael eu gosod mewn tai dros dro gan yr awdurdod gwerth gorau am fwy na chwe mis. |
NAWPI 4.15 | Cyfartaledd y rhent am bob tenant sy'n cael ei golli am fod anheddau wedi cael eu gadael yn wag yn ystod y flwyddyn ariannol. |
Sylwer: At ddibenion dangosyddion perfformiad tai gwerth gorau, diffinnir annedd fel adeilad, neu ran o adeilad sy'n ffurfio safle ar wahân, neu sy'n lled ar wahân ac yn hunan-gynwysiedig, ac a ddyluniwyd i'w meddiannu gan aelwyd unigol. | |
ATODLEN 5DANGOSYDDION AMGYLCHEDDOL
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 5.1 | Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli—
|
NAWPI 5.5 | Y ganran o briffyrdd a thir perthnasol (fel y diffinir 'relevant land' yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)) a archwiliwyd ac y mae safon eu glanweithdra yn uchel neu'n dderbyniol. |
NAWPI 5.6 | Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartref. |
NAWPI 5.7 | Y ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau a wasanaethwyd gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. |
ATODLEN 6DANGOSYDDION TRAFNIDIAETH
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 6.1 | Cost cynnal priffyrdd am bob km ar y prif ffyrdd. |
NAWPI 6.2 | Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr. |
NAWPI 6.3 | Cyflwr y ffyrdd
|
NAWPI 6.4 | Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio. |
NAWPI 6.5 | Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl
|
NAWPI 6.6 | Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd a hynny ar ffyrdd sy'n sensitif i draffig wedi'i achosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif i draffig. |
NAWPI 6.8 | Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn. |
NAWPI 6.9 | Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl. |
NAWPI 6.10 | Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd. |
ATODLEN 7DANGOSYDDION CYNLLUNIO
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 7.1 | Cynlluniau datblygu:
Os nad oes, ewch i (b) a (c)
|
NAWPI 7.3 | Nifer y gwyriadau a hysbysebwyd o'r cynllun datblygu statudol sydd wedi'i fabwysiadu a gymeradwywyd gan yr awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd. |
NAWPI 7.4 | Y ganran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos. |
NAWPI 7.6 | Ansawdd mewn gwasanaeth defnyddwyr (Rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru):— nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddir wedi'i fynegi fel cyfran o'u gyfanswm. |
NAWPI 7.7 | Y ganran o chwiliadau safonol tir statudol a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith. |
NAWPI 7.8 | Oes yna Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Biolegol Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau? Os nac oes, fydd cynllun o'r fath yn cael ei sefydlu o fewn y 12 mis nesaf? |
ATODLEN 8DANGOSYDDION IECHYD AMGYLCHEDDOL A SAFONAU MASNACH
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 8.1 | Y ganran o'r archwiliadau safleoedd bwyd y dylid bod wedi'u cynnal ac a gynhaliwyd mewn gwirionedd ar gyfer:
|
NAWPI 8.2/ BV 166 | Sgôr yr awdurdod gwerth gorau yn erbyn y rhestr gyfeirio o arferion gorau gorfodi ar gyfer iechyd amgylcheddol/safonau masnach. |
ATODLEN 9DANGOSYDDION DIWYLLIANT
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 9.1 | Nifer y disgyblion ysgol yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion. |
NAWPI 9.2 | Nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 9.3 | Pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon: nifer y nofiadau ac ymweliadau eraill am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 9.4 | Meysydd chwarae:
|
ATODLEN 10DANGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 10.1 | Lefelau cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau, fel a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
NAWPI 10.2 | Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
NAWPI 10.3 | Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu. |
NAWPI 10.4 | Y ganran o'r anfonebau di-ddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law. |
NAWPI 10.5 | Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn yr awdurdod gwerth gorau a gollwyd drwy absenoldeb oherwydd salwch. |
NAWPI 10.7 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 10.8 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 10.9 | Y nifer o staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ngweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod. |
NAWPI 10.10 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
NAWPI 10.11 | Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd a'r ganran sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl. |
NAWPI 10.12 | Ydy'r awdurdod gwerth gorau wedi ffurfio polisi gorfforaethol a gyfer lleihau trosedd ac anrhefn yn eu hardal? |
ATODLEN 11DANGOSYDDION BUDD-DÅL TAI A BUDD-DÅL TRETH GYNGOR
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 11.1 / BV76 | Diogelwch: A oes gan yr awdurdod gwerth gorau strategaeth ysgrifenedig a blaenweithgar i fynd i'r afael â thwyll a chamgymeriadau sy'n ymgorffori mentrau penodedig gan gynnwys y rhai a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) sy'n cael ei mynegi i'r holl staff yn rheolaidd? Oes/nac oes |
NAWPI 11.3 (a)/ BV78a | Cyflymder prosesu:
|
NAWPI 11.3 (b)/ BV78b (b)Amser cyfartalog prosesu hysbysiadau newid amgylchiadau. | |
NAWPI 11.3 (c) BV78c (c)Canran y ceisiadau adnewyddu a brosesir yn brydlon. | |
NAWPI 11.4 (a)/ BV79a | Cywirdeb prosesu:
|
NAWPI 11.4 (b)/ BV79b (b)Canran y gor-daliadau adenilladwy (heb gynnwys Budd-dâl Treth Gyngor) a adenillwyd yn y flwyddyn ariannol. | |
Nodyn: Nodir diffiniadau o dermau a chanllawiau ar fesur perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn yn “The Housing Benefit and Council Tax Benefit Management Information System Guide” a gynhyrchwyd gan yr AGP. | |
ATODLEN 12DANGOSYDDION DIOGELWCH CYMUNEDOL TRAWSBYNCIOL
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
|---|---|
NAWPI 12.1 / BV126 | Byrgleriaethau domestig am bob 1,000 o aelwydydd yn ardal yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 12.2 / BV127 | Troseddau treisgar am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau:
|
NAWPI 12.3 / BV128 | Troseddau cerbydau am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 12.4 / BV173 | A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu strategaeth gorfforaethol i leihau troseddau ac anhrefn yn eu hardal? Os nad ydyw, a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud hynny? |
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt er mwyn mesur perfformiad y cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2002 ymlaen.
Gwneir y Gorchymyn yn unol ag adrannau 4(1)(a) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori, cyn gwneud Gorchymyn o'r math hwn, â phersonau y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau gwerth gorau o dan sylw ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl yn dda. Mae'r gofyniad hwn i ymgynghori wedi'i fodloni cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Mae Erthygl 3 yn diffinio pa awdurdodau gwerth gorau y bydd yn rhaid mesur eu perfformiad, mewn perthynas â swyddogaethau penodol, drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad penodedig.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae Erthygl 4 yn rhagnodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 12 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 — Llywodraeth Gorfforaethol
Atodlen 2 — Addysg
Atodlen 3 — Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 4 — Tai
Atodlen 5 — Gwasanaethau'r Amgylchedd
Atodlen 6 — Trafnidiaeth
Atodlen 7 — Cynllunio
Atodlen 8 —Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach.
Atodlen 9 — Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Atodlen 10 — Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Atodlen 11 — Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor
Atodlen 12 — Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001 er nad y mwyafrif y dangosyddion wedi newid. Mae'r newidiadau sy'n dilyn wedi'u gwneud i'r dangosyddion yng Ngorchymyn 2001:
Mae'r dangosyddion hyn wedi'u dileu:
NAWPI 2.9, 4.8, 4.9, 11.2, 12.5
Mae'r dangosyddion hyn wedi'u hychwanegu:
NAWPI 2.14, 3.13, 3.14, 3.15, 4.13, 4.14, 4.15, 7.8, 10.12
Mae'r dangosyddion hyn wedi'u diwygio:
NAWPI 1.8, 2.13, 3.2, 5.1, 9.2, 12.2
Yn ogystal mae yna fân ddiwygiadau drafftio wedi'u gwneud i nifer o ddangosyddion eraill.
Mae manylion y dangosyddion (a oedd yn y drydedd colofn o'r atodlenni i'r Gorchmynion blaenorol) hefyd wedi'u dileu. Mae'r manylion bellach wedi'u cynnwys mewn canllawiau i'w cyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol.