Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002
Enwi, Cymhwyso a Dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
2.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 ac Atodlenni iddi.
Y diwrnodau penodedig
4.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 21 Ionawr 2002.
5.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ebrill 2002.
YR ATODLEN
RHAN IY DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 21 IONAWR 2002
Y DDARPARIAETH | Y PWNC |
|---|---|
Adran 1 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) | Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd |
Adran 8 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) | Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol |
Adran 42(1) (i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a nodir yn y tabl hwn) | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraffau 17 a 18 o Atodlen 8 (i'r graddau y mae eu hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) | Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 |
RHAN IIY DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2002
Y DDARPARIAETH | Y PWNC |
|---|---|
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd |
Adran 2 | Cyngor a gwybodaeth i rieni |
Adran 3 | Datrys anghydfodau |
Adran 7 | Dyletswydd i roi gwybod i riant pan wneir darpariaeth addysgol arbennig |
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol |
Adran 9 | Dyletswydd i bennu ysgol a enwir |
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a bennir isod. Adran 42(6) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 9 a bennir isod. | Mân ddiwygiadau a diddymiadau |
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 i 12, 14, 16 i 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Atodlen 9 y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru—
|
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 yng Nghymru ar 21 Ionawr 2002 er mwyn caniatáu i reoliadau sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gael eu gwneud cyn cychwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA.
Mae hefyd yn darparu ar gyfer dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002 y darpariaethau eraill yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag addysgu plant ag AAA yn ysgolion y brif ffrwd, darparu cyngor a gwybodaeth i rieni plant ag AAA, a threfniadau ar gyfer datrys anghydfodau ynghylch materion sy'n ymwneud ag AAA, adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig a diwygio datganiadau AAA.