Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2002.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn adran 1(1)(d) neu (e) o Ddeddf 1999 (awdurdodau heddlu a thân).
(3)
Materion nad ydynt i fod yn faterion anfasnachol mewn perthynas ag awdurdodau gwerth gorau2.
Bydd y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 (contractau awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill: hepgor ystyriaethau anfasnachol) yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno.
Mae Adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn cynnwys rhestr o faterion (materion anfasnachol) na chaiff awdurdod cyhoeddus arfer y swyddogaethau a restrir yn adran 17(4) o'r Ddeddf honno o'u herwydd, sef swyddogaethau sy'n cynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwadau neu weithfeydd cyhoeddus arfaethedig.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno . Mae'r materion o dan sylw yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogi etc gweithlu'r contractiwr ac ymddygiad contractwyr neu eu gweithwyr mewn anghydfodau diwydiannol.