- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
12 Mawrth 2002
Yn dod i rym
31 Mawrth 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(1) a (2) a 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn adran 1(1)(d) neu (e) o Ddeddf 1999 (awdurdodau heddlu a thân).
(3) Yn y Gorchymyn hwn Ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1988(2).
2. Bydd y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 (contractau awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill: hepgor ystyriaethau anfasnachol) yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn cynnwys rhestr o faterion (materion anfasnachol) na chaiff awdurdod cyhoeddus arfer y swyddogaethau a restrir yn adran 17(4) o'r Ddeddf honno o'u herwydd, sef swyddogaethau sy'n cynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwadau neu weithfeydd cyhoeddus arfaethedig.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno . Mae'r materion o dan sylw yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogi etc gweithlu'r contractiwr ac ymddygiad contractwyr neu eu gweithwyr mewn anghydfodau diwydiannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: