2002 Rhif 676 (Cy.73)
Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 April 2002.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru (fel y mae wedi'i diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983 yn unig.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cimwch” (“lobster”) yw cimwch o'r rhywogaeth Homarus gammarus;
ystyr “cimwch coch” (“crawfish”) yw cimwch coch o'r rhywogaeth Palinurus elephas a Palinurus mauritanicus;
ystyr “llabed” (“flap”), mewn perthynas â chynffon cimwch neu gimwch coch, yw unrhyw ran o dair llabed ganolog ffan cynffon y cimwch neu'r cimwch coch gan gynnwys y telson gyda'r anws a'r iwropod de a chwith yn union yn ymyl y telson;
ystyr “hollt V” (“V notch”) yw marc ar siâp y llythyren “V” sy'n 5mm o leiaf o ddyfnder wedi'i dorri yn un o leiaf o iwropodau ffan cynffon cimwch neu gimwch coch, a phig y llythyren “V” wedi'i osod i mewn o ymyl y llabed;
ystyr “wedi'i lurgunio” (“mutilated”), mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi'i lurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V.
2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “unrhyw orchymyn cyfatebol” yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:
i
cimwch wedi'i lurgunio,
ii
cimwch coch wedi'i lurgunio,
iii
unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.
3
At ddibenion y Gorchymyn hwn, pennir “y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru” yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 19874 ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honNo. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau nad ydynt i'w trin felly, yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo ym mhob achos.
Gwahardd pysgota3
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys i bysgota am y canlynol—
a
cimwch wedi'i lurgunio,
b
cimwch coch wedi'i lurgunio, neu
c
unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.
2
Mae pysgota gan gwch pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.
3
Mae pysgota gan gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.
Gwahardd glanio4
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys i'r canlynol—
a
cimwch wedi'i lurgunio,
b
cimwch coch wedi'i lurgunio, neu
c
unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V;
sydd wedi eu dal.
2
Mae glanio unrhyw bysgod môr y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yng Nghymru oddi ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd wedi'i wahardd.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota5
1
Er mwyn gorfodi adrannau 5 a 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.
2
Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fyddai yn ei gwneud yn hwylus i fynd ar fwrdd y cwch.
3
Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—
a
caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;
b
caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt, neu'n ymwneud â'r personau sydd ar fwrdd y cwch, sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
c
er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1), 5(6) neu 6(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19675 fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;
ch
os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynghylch y tramgwydd;
ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
4
Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn, neu unrhyw orchymyn cyfatebol, wedi'i dorri ar unrhyw adeg o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain, fe gaiff y swyddog—
a
ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a
b
cadw'r cwch yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yno;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)